Everything Heledd Fychan said in her speech to annual conference
Heledd Fychan, the Senedd Member for South Wales central gave the opening speech at the annual conference.
Bore da gynhadledd a chroeso ichi gyd, boed chi’n aelod ers blynyddoedd neu ddegawdau, neu fel nifer sydd am fod gyda ni dros y ddeuddydd nesaf, yn Aelodau newydd.
Ac mae yna nifer fawr o Aelodau newydd wedi ymuno eleni, am amryw o resymau gwahanol. Rhai wedi eu hosgogi gan ymgyrch y Blaid yn etholiad San Steffan a pherfformiadau gwych ein ymgeisyddion a’n harweinydd Rhun ap Iorwerth ar y cyfryngau. Heb os, mi wnaeth o ennill llwyth o ffans newydd i ni yn sgil ei ymddangosiad cofiadwy ar Good Morning Britain yn egluro anhegwch HS2 a gadael Kate Garraway yn gegrwth.
Eraill wedi ymuno wedi cael eu hysgogi gan ymgyrchoedd y Blaid ar lawr gwlad, neu’n ymgyrchu fel Aelodau etholedig ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw megis galw am gadoediad yn Gaza, cyllid teg i Gymru neu diwedd ar bolisiau creulon llymder y Blaid geidwadol sydd rwan yn cael eu parhau gan y Blaid Lafur yn Llundain.
A thra’n croesawu’r Aelodau newydd, mae yna nifer o bobl yng Nghymru bellach sydd nid yn unig yn ‘indy curious’ ond yn chwilfrydig am y Blaid. Sosialwyr sydd, hyd yma, wedi cefnogi Llafur, ond sy’n canfod eu hunain wedi eu dadrithio gan y Blaid Lafur sydd ohoni bellach. Wedi eu dadrithio gan y diffyg uchelgais mae’r Blaid honno bellach yn ei ddangos dros ein cymunedau a’n cenedl, a’r ffaith ei bod mor barod i barhau gyda polisiau creulon y Llywodraeth flaenorol – megis y cap dau blentyn – a chyflwyno toriadau megis y taliad tanwydd gaeaf fydd yn amddifadu miloedd o bensiynwyr bregus yng Nghymru rhag ei dderbyn. Dim rhyfedd bod gymaint yn dechrau cwestiynnu os mai dyma’r gorau y gall hi fod i Gymru ac yn cael eu cyffroi gan weledigaeth Plaid Cymru wedi ei selio ar uchelgais a thegwch i bobl Cymru.
Dangoswyd hynny’n glir gyda chanlyniadau gwych etholiad San Steffan welodd Liz a Ben yn cael ei hail-ethol gyda mwyafrifoedd anferthol, ac Ann a Llinos yn ymuno a nhw. Bendigedig!
A gadewch imi grynhoi beth oedd arwyddocad y canlyniadau hyn:
- Canlyniadau gorau’r Blaid erioed mewn etholiad cyffredinol
- Dyblu nifer ein Aelodau Seneddol
- A sicrhau ein cyfran fwyaf o’r bleidlais yn ein hanes!
Mae’n deimlad da yn dydi!
Ac er bod yna lot fawr o sylw wedi bod wrth gwrs ar y pedwar gafodd eu hethol, hoffwn hefyd dalu teyrnged i bob un o’n ymgeisyddion ni, a phawb fu’n eu cefnogi, a’u llongyfarch hwythau ar eu gwaith yn hyrwyddo neges y Blaid.
Os edrychwn ni ar y canlyniadau yma yng Nghaerdydd – Kiera Marshall yng Nghorllewin Caerdydd gynyddodd y siar o’r bleidlais gan 12.6% a dod yn ail; Malcolm Phillips yng Nghogledd Caerdydd gynyddodd y bleidlais gan 6.4% a Cadewyn Skelley yn Nwyrain Caerdydd gynyddod gan 8.5%.
Bum ddigon lwcus i gael mynd allan a chefnogi’r tri yn eu hymgyrchoedd, a chael fy ysgogi gan eu hafiaith a’r ffordd y gwnaethant ysgogi eraill i ddod allan a ymgyrchu ar eu rhan. Wna’i byth anghofio’r bore dreuliais gyda Kiera – a chriw mawr o actifyddion y Blaid – yn curo’r drysau mewn rhan o Gaerdydd sydd fel arfer yn gadarnle i’r Blaid Lafur, a’r ffaith bod bron bob ty yn cefnogi’r Blaid a mi wnesh i ffonio fy ngwr – oedd wrthi’n ymgyrchu yn Ynys Mon ar y pryd – a dweud bod o’n teimlo fel ymgyrchu mewn un o gadarnloedd y Blaid yn hytrach na yn ein prif ddinas.
Bum ddigon lwcus i gael ymuno mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan aelod gweithgar o’r Blaid yma yng Nghaerydydd, Steffan Webb yn ddiweddar, ddaeth a Aelodau o ledled ein prif ddinas ynghyd i drafod sut y gallwn adeiladau ar y llwyddianau hyn a thyfu’r gefnogaeth i’r Blaid rhwng rwan ac etholiadau’r Senedd yn 2026 ac etholiadau’r Cyngor yn 2027. Mae yna dan ym moliau’r Aelodau heb os, a dwi’n sicr y gwelwn ni enillion pwysig yma yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd nesaf. (4:36)
Ac mae dirafawr angen y newid hwnnw. Edrychwch ar y smonach mae’r Blaid Lafur yn ei wneud o Gaerdydd, ar lefel Cyngor a hefyd o ran rhai o benderfyniadau’r Senedd.
Neuadd Dewi Sant – yn parhau ar gau tan o leiaf 2026 a’i dyfodol yn ansicr, gyda y Cyngor yn paratoi i ddod a rheolwyr newydd i mewn CYN y broblem goncrit, ac heb wneud dim i ddiogelu’r adeilad er gwybod am y problemau ers 2021.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a’r holl rwydwaith o Amgueddfeydd cenedlaethol, wedi gorfod gwneud toriadau sylweddol ac yn rhybuddio y bydda’i posibilrwydd o orfod cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oherwydd cyflwr yr adeilad a’r diffyg buddsoddi gan y Llywodraeth.
Amgueddfa Caerdydd – sydd dan ofalaeth y Cyngor – a sydd wedi ei leoli yn yr Hen Lyfrgell, bron a cael ei gau a’i newid am fersiwn symudol, eilradd, ond wedi ymgyrch, yn cael aros tan 2028 yn ei leoliad presennol. Ond be ddaw wedi hynny?
Heb son am y toriadau i raglenni Ieuenctid y Coleg Cerdd a Drama, y bygythiad i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a llu o benderfyniadau eraill sydd wedi mynd yn groes i ddyheuadau trigolion, megis adeiladau ar Ddolydd y Gogledd gan gynyddu’r risg o lifogydd a dinistrio bioamrywiaeth yr ardal. Mae’r penderfyniad hwn hefyd wrth gwrs hefyd yn mynd yn groes i farn nifer o ddoctoriaid sydd yn credu nad dyma’r lleoliad iawn ar gyfer canolfan canser felindre newydd, ac y bydda’i yn well o lawer cydleoli nesaf at Ysbyty. Ond eto, dydi Llafur ddim yn gwrando.
Does rhyfedd felly bod pobl yn dechrau diflasu gyda’r Blaid sydd wedi cael pum mlynedd ar hugan i wella ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru a mynd i’r afael gyda problemau dybryd, megis tlodi plant? Mae’r angen am newid yn fwy nag erioed.
Many of you will have seen yesterday I’m sure Rhun ap Iorwerth’s interview with the Guardian, which bore the headline: Labour is not inevitable.
With Senedd reform now under way and a new proportional voting system and a larger Senedd secured, this is a message that is more than rhetoric. It’s the truth. Plaid Cymru can, in 2026, become the largest party in the Senedd. And Rhun can become the next First Minister. One thing that may stop that of course is if Labour decide to go for yet another change of Leader between now and 2026. Given we are already on our third First Minister this year, and given how unhappy and divided the Labour group remain, I wouldn’t rule anything out!
But back to Plaid. Why is it important that we break the Labour cycle here in Wales, and secure a Plaid Cymru Government.
It’s clear to me, and my colleagues in the Senedd, that Wales needs fresh ideas, and new leadership. Whilst Labour in Wales looks tired and complacent, and willing to accept whatever Labour in London do to us now that there are in power, we are the ones putting forward solutions. Offering fresh ideas, new perspectives, looking for inspiration from other countries and challenging the Government to do better.
This was evident in the Cooperation Agreement, which – despite coming to an end just prior to the general election – continues to shape the programme of Government to this date. Labour can shout all they like about free school meals now being delivered to every child in a primary school in Wales, but people in Wales know that it was only delivered because of Plaid Cymru and the Cooperation Agreement, and the campaigning of many groups such as People’s Assembly Wales. And if we can deliver those kind of changes as the third largest party in Wales, just imagine what a Plaid Cymru Government would achieve.
Dydw i ddim am honni y bydda’i bywydau pawb yng Nghymru yn newid dros nos hefo Llywodraeth Plaid Cymru. Bydda’i heriau mawr, wrth gwrs, yn parhau i wynebu ein cenedl yn arbennig felly y diffyg cyllid teg a digonol i Gymru o San Steffan a’r amharodrwydd i ddatganoli mwy o bwerau i ni ar feysydd lle mae’r achos wedi ei brofi yn ddi-amheuol, megis o ran yr heddlu a Chyfiawnder. Ond hyd yn oed heb hynny oll, mae yna bethau y gallem newid. Oherwydd nid dim ond diffyg arian sydd yn gyfrifol am sefyllfa druenus ein gwasanaethau cyhoeddus a’n sefydliadau cenedlaethol, ond hefyd diffyg gweledigaeth strategol. Mae’n heb bryd felly i’r Blaid Lafur gamu o’r neilltu, a rhoi cyfle i Blaid sydd wirioneddol isho cyflawni i’n cenedl reoli. Allith 2026 ddim dod digon buan!
Gyda Senedd fwy wrth gwrs, mi fydd angen mwy o ymgeisyddion arnom a mwy o actifyddion. Er gwaetha’r ffaith bod Eluned Morgan wedi cael gwared o’r bil fydda’i yn dod a cwotau mewn o ran rhywedd yn yr etholiad nesaf, mi fyddwn ni ym Mhlaid Cymru eisiau sicrhau bod yna fwy o ferched nag erioed o’r blaen yn cael eu hethol ar ran plaid Cymru i’r Senedd nesaf. Mi fyddwn hefyd angen mwy o ymgeisyddion o gefndiroedd gwahanol, o oedrannau gwahanol a gyda phrofiadau a sgiliau mewn llu o feysydd amrywiol. Felly da chi – os oes diddordeb gennych mewn sefyll neu bod yn fwy gweithgar gyda’r Blaid – mynnwch sgwrs gyda unrhyw un ohona ni sydd yn Aelodau etholedig dros y ddeuddydd nesaf yma. Does dim modfedd o Gymru lle na allwn ennill yn yr etholiad nesaf, ac felly mi fydd angen mwy o ymgeisyddion a actifyddion nag erioed o’r blaen arnom. Felly beth am fynd amdani.
Mae hi’n gyfnod cyffrous i fod yn aelod o Blaid Cymru, a dwi’n gobeithio’n fawr y gwnewch chi fwynhau y ddeuddydd nesaf yma wrth i ni ymgynull yma yng Nghaerdydd.
Nid deisyfu grym er mwyn ni’n hunain yda ni ym Mhlaid Cymru, ond yn hytrach, deisyfu grym er mwyn gallu cyflawni i bawb sy’n galw Cymru’n gartref iddyn nhw. Ella bod Cymru’n genedl fach, a bod y Blaid Lafur yn fodlon iddi barhau felly, ond mae ein uchelgais ni yn un fawr.
Ymlaen gyfeillion!