Education spokesperson Cefin Campbell's speech to annual conference in full.

Gynhadledd, mae’n braf cael eich annerch y prynhawn yma fel llefarydd y Blaid yn y Senedd ar faterion Addysg. Ar ôl bod yn aelod dynodedig fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid a’r llywodraeth am ryw ddwy flynedd a hanner mae’n hyfryd cael un portffolio i ganolbwyntio arno yn hytrach na cheisio bod yn arbenigwr ar ryw bymtheg o feysydd polisi gwahanol! A dw i wrth fy modd gydag addysg. Dyma’r sector yr wyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol ynddo.  

Fel mab i athrawes ysgol gynradd a oedd yn credu i’r byw bod addysg yn allwedd i newid bywydau plant a phobl ifanc, doedd dim rhyfedd bod yr angerdd hwnnw wedi cael dylanwad mawr arna i a fy mrawd – y ddau ohonom wedi mynd i’r byd addysg ar ddechrau’n gyrfâu.  

OND, roedd dylanwad arall yn pwyso’n drwm arnom fel brodyr – fy nhad – oedd yn dod o deulu o lowyr – oedd wedi gweld ei dad yntau, fy nhadcu, yn marw o niwconiosis yn 48 oed, yn ymladd am anadl drwy fasc ocsigen yn ystod blynyddoedd poenus, olaf ei fywyd – yn ein rhybuddio os na fyddem yn gweithio’n galed yn yr ysgol mae’n tynged ni hefyd fyddai mynd i’r gwaith glo a cholli’n hiechyd. Doedd e’, fel cymaint o dadau yn Nyffryn Aman a sawl dyffryn arall ar hyd a lled Cymru, ddim eisiau gweld creithiau’r glo yn creithio’n bywydau ninnau yn yr un ffordd!  

A dyna beth wnes i – cymhwyso i fod yn athro ar ôl graddio a chwblhau cwrs meistr.......ac o’n i ar y ffordd i gael cyfweliad i fod yn athro Cymraeg yn Ysgol Ystalyfera cyn cael cynnig cyfweliad gyda Phrifysgol Abertawe i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ychydig ddiwrnodau cyn hynny, a chael cynnig y swydd. Dw i wedi meddwl droeon ers hynny mor ffodus oedd Ysgol Ystalyfera bod Prifysgol Abertawe wedi camu i’r adwy! 

Felly dyna ni, yn fab i athrawes, yn frawd i athro, yn fab yng nghyfraith i athrawes a nawr rwy’n falch i ddweud yn dad i athrawes sydd newydd gymhwyso gyda Lois yn dechrau ers mis Medi yn Ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin. Ydy, mae dysgu yn y gwaed!  

A dros y blynyddoedd, gan gynnwys fy nghyfnod yn ddarlithydd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, rwyf wedi bod yn Gadeirydd ac aelod o fyrddau llywodraethol nifer o ysgolion cynradd, uwchradd a choleg addysg bellach. Fe fues i hefyd yn arolygydd cofrestredig i Estyn, ac fel ymgynghorydd iaith ac addysg mi fues i’n arwain nifer fawr o brosiectau addysg i Fwrdd yr iaith ac yna’r llywodraeth a chael fy nghomisiynu i ysgrifennu cynlluniau strategol i nifer o awdurdodau lleol ar ddatblygu addysg Gymraeg a chynnal ymchwil i nifer o gyrff yn y sector addysg ôl-16. A rhywle yng nghanol hynny i gyd, fe wnes i sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf, sef Menter Cwm Gwendraeth nôl ar ddechrau’r 90au a rhoi cymorth i sefydlu mentrau iaith eraill dros Gymru gyfan! 

Felly, ers i fi gael gafael ar y portffolio addysg ddechrau’r haf, a gwneud tipyn o waith ymchwil a chael nifer o sgyrsiau gyda chynrychiolwyr o’r sector, rwy’ wedi dod i’r casgliad onest - nid yw’r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn ffit i redeg addysg yng Nghymru! 

Rwy’n cael yr argraff nad oes gan y llywodraeth syniad yn y byd shwd i fynd i’r afael â’r llu o sialensiau sy’n ein hwynebu yn y maes.  

Dyna pam mae’n rhaid i ni wneud yr achos mai Plaid Cymru yn unig sy’n gallu cynnig atebion i’r argyfwng addysg. 

Addysg, gyfeillion yw’r buddsoddiad mwyaf gallwn ei roi i’r genhedlaeth nesaf, yr allwedd sy’n agor y drws i wybodaeth, i sgiliau, i’r gallu i ddadansoddi a dehongli, i werthoedd ac i’r gwirionedd. Fel dwedodd JFK – ‘the goal of education is the advancement of knowledge and the dissemination of truth’.  

Heb y safonau uchaf posib, heb y sgiliau angenrheidiol, wnawn ni ddim llwyddo i ddatblygu gweithlu sydd yn barod i greu’r economi lewyrchus sydd mawr ei hangen ar gyfer Cymru’r dyfodol, gweithlu sy’n barod i gofleidio technoleg, sy’n barod i fentro ym myd busnes, sy’n barod i gyfoethogi ein sector cyhoeddus, sy’n barod i ofalu ac i wasanaethu.  

Conference – there’s a lot of work to do before we can convince people that independence is not only desirable but necessary to re-build this great country of ours, and education has to be the cornerstone of that belief that devolving more powers and ultimately independence will improve people’s lives.  

First of all we must un-do decades of mismanagement and underfunding of education by Welsh Labour, from early years to primary and secondary schools, and through to post-16 and higher education. Labour have failed to get the basics right.  

  • We have the worst PISA results in our history – worse than any of the other home nations 
  • We have a recruitment and retention crisis – fewer students are choosing teaching as a profession 
  • Spending per pupil has fallen by about 6% in real terms 
  • Absenteeism in schools has risen since the pandemic 

A lack of support for pupils with Additional Learning Needs 

  • A third of our children live in poverty which we know is a contributing factor to poor attainment levels  
  • Children can’t access Welsh-medium education because of transport issues 
  • The skills gap is widening between Wales and the rest of the UK 
  • Fewer young people are going to university   

This is Labour in Wales’ record in government. It’s a dereliction of their duty to provide quality education and opportunities for all of our children and young people regardless of their socio-economic background.  

And yet we have the most dedicated and inspirational teachers you could find anywhere and I’d like to thank them for everything they do in our schools and colleges day in, day out. So something is going wrong with the support and guidance given to them by Welsh Government.  

I can honestly say that if the leadership and management of education by Welsh government was inspected by Estyn I have no doubt that it would be put in special measures! 

 Let’s look in particular at literacy, a key skill which is fundamental to achieving good educational outcomes. Is it that surprising that we’ve seen such low levels of attainment here in Wales, when it turns out the Welsh Government has been giving mixed messaging on the teaching guidance for reading skills?  

In recent weeks, the developing saga regarding the teaching of reading skills encapsulates perfectly in one single issue the wider mis-management of education by Labour in Wales. 

As the ITV Wales report on this issue states (I quote) “Hundreds of studies have shown that young children need explicit instruction in how the letters they see on the page connect to the sounds they make. This is known as phonics… and has been found to be one of the most effective methods of teaching reading.” 

However in Wales, Welsh Government have continued to promote ‘cueing’ -  a method, which according to Professor Rhona Stainthorp, is (I quote) “not based on any empirical evidence of how children learn to read”.  

It is simply not good enough that children aren't being taught the basics in our schools due to Labour's failures. This includes encouraging children to fall in love with books again by improving access to books and libraries. If every jail in Wales has a library, surely every primary school should have one as well, and through our ‘Libraries for Primaries’ scheme Plaid Cymru will put this right. 

Fel dych wedi clywed yn barod, y canlyniadau profion addysg PISA a gyhoeddwyd y llynedd oedd y rhai gwaethaf erioed i Gymru. 

Safonau mathemateg - i lawr.  

Safonau gwyddoniaeth - i lawr.  

Safonau darllen - i lawr.  

Ond does dim rhaid fod y sefyllfa cyn waethed â hyn. Yn Iwerddon er enghraifft ceir esiampl o lwyddiant, gyda’i disgyblion ymysg y gorau yn y byd o ran lefelau darllen.  

Ac yng Ngogledd Iwerddon, mae’r cynllun ‘Darllen, Cyfri a Llwyddo’, sydd yn llawn targedau a cherrig milltir mesuradwy, wedi arwain at gynnydd yn eu safonau addysg.   

Does dim angen ail-ddyfeisio’r olwyn. Yr hyn sydd ei angen yw edrych unwaith eto ar y pethau sylfaenol, ystyried beth sy’n gweithio fan hyn yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill, er mwyn galluogi i’n plant lwyddo. Does dim cyfrinach yn hynny o beth! 

Ac wrth gwrs, shwd all ein plant lwyddo heb weithlu digonol? Dyma faes arall lle mae diffygion amlwg. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd ddiwetha. Ers 2016, mae dros 5,500 o athrawon wedi gadael y proffesiwn, sydd gyfystyr â 100,000 o flynyddoedd o brofiad wedi ei golli. Mae dros 1,200 wedi gadael yn gynnar dros yr un cyfnod.  

A beth yw ateb y Llywodraeth?  

Diddymu ei grŵp arbenigol ar recriwtio a chadw, a sefydlwyd i ffanfer mawr yn y Senedd diwethaf, ond ni chlywyd na siw na miw ganddo ers hynny!  

A sôn am hanes yn ail-adrodd ei hun – nôl yn 60au’r ganrif ddiwethaf, gofynnodd neb llai na Gwynfor Evans gwestiwn yn San Steffan i’r Llywodraeth – sef ‘pa gyfran o athrawon a ddysgwyd yng Ngholegau Prifysgol Cymru a cholegau addysg Cymru yn ystod y blynyddoedd 1955-65 a gafodd swyddi yng Nghymru?’ 

Ateb yr Ysgrifenydd Gwladol dros Addysg ar y pryd, un Mr Edward Redhead, oedd ‘Nid yw’r wybodaeth hon ar gael’.  

Yn diddorol, dyna bron, gair am air, yr union un ateb ges i eleni gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg pan wnes i ofyn faint o fyfyrwyr wnaeth dderbyn arian drwy gynlluniau cymhelliant addysgu’r Llywodraeth a oedd dal i ddysgu yng Nghymru! Doedd ganddi ddim ateb! 

Gyda bwlch o 60 mlynedd a dau Ysgrifennydd Cabinet - yr un atebion gwag!  

Faint mwy o gynlluniau fydd yn syrthio’n brin cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ar ôl pum mlynedd ar hugain eu bod yn methu ein plant a’n pobl ifanc? 

Dyna pam ein bod hefyd yn galw am gynlluniau clir ar gynyddu'n sylweddol nifer y gweithlu sy’n medru addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o Fil y Gymraeg ac Addysg sydd newydd cychwyn ei daith ddeddfwriaethol drwy'r Senedd. Yn ein barn ni, dylai bob plentyn gael yr hawl i addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg gan mai dyma’r dull mwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl, ond heb weithlu dwyieithog mae’r nod hwnnw yn rhwym o fethu!  

Tu hwnt i’r byd ysgol, allwn ni ddim anghofio Addysg Drydyddol. 

Mae’n rhaid i ni sicrhau gwell perthynas rhwng colegau addysg bellach ac ysgolion. Rŷn ni’n gwybod nad yw cyrsiau mwy academaidd eu naws yn addas i bob person ifanc a mae eu gorfodi i ddilyn llwybrau traddodiadol yn un o’r rhesymau dros gam-ymddygiad. Drwy greu gwell partneriaeth rhwng colegau ac ysgolion gallwn gynnig arlwy o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd er lles ein dysgwyr. Rwy’ wir yn gobeithio y bydd y sefydliad newydd a grewyd yn ddiweddar, sef MEDR, yn gallu annog gwell cydweithio rhyngddynt.    

Yfory byddwn yn trafod cynnig grwp y Senedd ar shwd y gallwn ail-edrych ar y gefnogaeth rydym yn gallu ei roi i brifysgolion a myfyrwyr Cymru.  

Rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth, ond rhaid bod yn glir – dyw’r status quo ddim yn gynaliadwy.  

Ar hyn o bryd, mae £2 o bob £5 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar ffioedd myfyrwyr yn mynd i sybsideiddio prifysgolion yn Lloegr a hyn ar adeg pan mae prifysgolion Cymru yn wynebu argyfwng ariannol. Mae’n rhaid i bethau newid gan gynnwys ail edrych ar shwd mae Cynllun Seren yn gweithio, fel ein bod yn cadw mwy o fyfyrwyr talentog Cymru yng Nghymru. 

Gynhadledd, yn absenoldeb unrhyw weithredu cadarn i fynd i’r afael â’r llu o broblemau sy’n wynebu’r sector addysg, nac ychwaith uchelgais i wella safonau yn ein hysgolion gan Lywodraeth Cymru, fe alla i addo i chi hyn - bydd Plaid Cymru yn 2026: 

  • yn cynnig cyfle newydd a llywodraeth newydd, gyda’r bwriad o sicrhau dyfodol disglair i’n plant a’n pobl ifanc. Wedi’r cyfan – un cyfle mae nhw’n ei gael a’n cyfrifoldeb ni yw creu’r amodau gorau iddynt o ran addysg a datblygu sgiliau. 

Gyfeillion: 

Mae’n amser am newid.  

Mae disgyblion, rhieni ac athrawon yn barod am newid. 

Mae Plaid Cymru yn barod am newid. 

Mae Cymru yn barod am newid. 

Mae gwaith i’w wneud. Ymlaen i lywodraethu! 

Diolch yn fawr.