Llinos Medi's 2024 Spring Conference speech. 

Dyma ni’n dod i derfyn y Gynhadledd lle ‘da ni ym Mhlaid Cymru ‘di rhannu’n gweledigaeth, ein huchelgais a’n gobaith i Gymru. Dyma’r pethau allweddol sydd ei angen i redeg gwlad a’r pethau sydd wirioneddol ar goll yn y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a Llafur yng Nghaerdydd heddiw ‘ma.

Ma siŵr eich bod chithau fel fi wedi cael llond bol o’r sgandal ar ôl sgandal sy’n dod o San Steffan. Pe tai nhw’n rhoi gymaint o ymdrech i redeg y wlad yn lle edrych ar ôl eu hunan efallai bysa ni mewn gwell lle. Does dim rhyfedd bo’r cyhoedd wedi colli hyder mewn gwleidyddion. Mae gennym Blaid Geidwadol yn derbyn rhoddion anferthol gan unigolyn hiliol, a’r Gweinidogion yn tyrru ar y cyfryngu i’w amddiffyn neu ddod ar frawddeg arferol allan ‘it’s time to move on’, ‘he’s apologised’. Ydi wir, mae’n amser symud ymlaen a chael gwared â’r Blaid Geidwadol sydd wedi dinistrio ein cymunedau, rhwygo gobaith ein hieuenctid a sicrhau bod ei ffrindiau yn elwa ar ffordd!

A dwedwch chi wrtha i pam mae Aelod Seneddol Ceidwadol presennol Ynys Môn wedi derbyn £128,500 mewn rhoddion mewn ychydig dros ddwy flynedd? Ar rhoddion hyn yn dod gan reolwyr cronfeydd buddsoddi yn Llundain. Beth yn wir yw eu diddordeb yn Ynys Môn? Ydych chi’n meddwl eu bod yn frwd dros y Gymraeg, neu dros ein cymunedau gwledig neu efallai dros ein hetifeddiaeth? Nac ydi siŵr. Ac mae disgwyl i bobl Ynys Môn werthfawrogi’r arian er mwyn prynu rhyw hi-vis neu bamffled sy’n greadigol gyda’r gwir drwy ddrysau’r ynys. Dim ond un rheswm sydd tu ôl i’r rhoddion hyn, sef i geisio cadw’r Blaid Geidwadol ddinistriol hon mewn grym. Gyfeillion, gwn na fydd Ynys Môn yn disgyn amdano. Wnawn ni ddim caniatau iddyn nhw barhau i chwalu’r economi, ein gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol y wlad fwy byth. Fy neges i iddyn nhw ydi hyn: dydi pleidlais pobl Ynys Môn ddim ar werth. Does gen gwmnïau o Lundain dim hawl ymyrryd yn nemocratiaeth Môn a Chymru!

A dyma ni’n gobeithio bo Llafur am ddangos gwell esiampl, ond na. Rydym bellach gyda Phrif Weinidog Newydd wedi’i ethol fel Arweinydd ei blaid gyda mwyafrif bychan iawn, ac yntau wedi ariannu ei ymgyrch gyda rhodd ariannol gan unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o dorri rheolau amgylcheddol. Ble mae’r egwyddorion sylfaenol bywyd Cyhoeddus wedi mynd cyfeillion? Mae’n edrych fel bod ‘bank transaction’ yn bwysicach na ‘public service’.

Diolch byth dydy pob plaid ddim r’un fath. Dwi’n falch bod Plaid Cymru yn blaid lawr gwlad. Mae hynny’n  golygu ein bod yn atebol i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, nid i fuddsoddwyr busnesau mawr a billionaires. Mae angen tynhau rheolau a sicrhau na all unrhyw blaid brynu pleidleisiau ac ymyrryd yn ein democratiaeth. Mae angen gwneud hyn ar fyrder er mwyn adeiladu hyder y cyhoedd.

I never envisaged myself as a politician. To be completely honest I refused the first and second request to stand ac a Councillor. I thought I wasn’t good enough. I thought I wasn’t educated enough, and I thought that I was too young. The stark contrast between myself and those decision makers in West Minster is obvious to all.  They were born into politics. But since becoming a politician I have learnt something extremely important, what the public want from us is honesty and someone they can trust. And what is the meaning of trust - If you trust someone you believe that they are honest and sincere and will not deliberately do anything to harm you.  I’ve now been a politician for nearly eleven years. And I’ve worked tirelessly to build trust, to be honest and to make sure that my decisions would never deliberately hurt anyone. I feel stronger than ever that we need voices who stand up for the weak not the rich, voices who demand equality not inequality and a voice with vision and drive not repeated mistakes. So as the public have lost their trust in politicians let me say today, as Ynys Mon MP was having a Covid Party I was discussing the R-rate for Ynys Mon and the pressures on the health and Social Services. I couldn’t even have a glass of wine in my house as I didn’t know what was coming next. I can also tell you that the then Health Minster for Wales stood in the Senedd and recognized my work to safeguard the people of Ynys Mon. It even came out in the covid inquiry that the civil servants had a high regard for my Leadership. Friends you don’t buy trust, you work for it.

Gynhadledd mae rhaid i ni fynnu’r newid rydym yn dymuno ei weld. Dwi ‘di cael llond bol ar weld y syrcas a’r diffyg gweledigaeth. Rydym mewn cyfnod ble mae’r Torriaid yn gwneud pob dim posib i gadw grym, yn defnyddio arian i brynu eu buddugoliaeth. Ond mae’r Blaid Lafur hefyd yn despret i gael bod mewn grym ac yn barod i newid o fod yn goch i biws! Mae nhw angen grym cymaint maen nhw’n addoli Thatcher! Gyfeillion, mae rhaid i ni ledaenu ein neges ledled Gymru, dim ond un Blaid sy’n rhoi eu buddiannau Cymru gyntaf, a Plaid Cymru ydi’r blaid honno. Y grym yr ydym ni’n dymuno gweld yw’r Gymru annibynnol ffynnianus. Mae rhaid inni ddychwelyd tîm cryf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad nesaf dan arweiniad medrus Liz. Gynhadledd, dw i’n gobeithio mai dyma’r tro olaf i mi sefyll o’ch blaen fel ymgeisydd San Steffan. Dw i am i Blaid Cymru Ynys Môn lwyddo’r gamp lawn o gynrychiolaeth etholedig. Yn arwain ein Cyngor. Rhun yn ein harwain yn y Senedd. A gobeithiaf y byddaf innau’n eich hannerch yn y Gynhadledd nesaf fel Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn. Ynys Môn fy nghartref, Ynys Môn gwlad y Medra.

Gyfeillion, dewch gyda mi i brofi ein bod yn medru.