Only 0.3% of apprenticeships are delivered through the Welsh language

App12032019.jpg

Mae Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith wedi beirniadu yn Llywodraeth Cymru, ar ôl i ystadegau a ddarganfuwyd gan Cymdeithas yr Iaith ddangos mai dim ond 0.3% o brentisiaethau yng Nghymru - neu 230 allan o 58,665 a gafodd eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Plaid Cymru fod y niferoedd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith, ar gyfer y rheini sy'n dymuno dysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad yn honni ei bod wedi llwyddo i gyflwyno prentisiaethau, gan ganmol cynnydd yn y niferoedd.

Fodd bynnag, meddai Bethan Sayed AC, llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros arloesi, sgiliau ac addysg ôl-16,

“Mae'n amlwg iawn bod gan Lywodraeth Cymru record gymysg ar brentisiaid. Ond o ran cynnig cyfleoedd economaidd i bobl sydd â hawl a disgwyliad i allu cael prentisiaeth drwy eu dewis iaith - maent wedi methu'n llwyr.

“Mae'r ffigurau'n wirioneddol anhygoel. Dylem ddisgwyl llawer mwy na hyn. Dylem o leiaf anelu at allu cynnig rhifau prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n cyfateb i ganran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg mewn ardal benodol. Mae'n bwysig, yn enwedig ar gyfer ardaloedd o Gymru lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn ehangach, bod ystod ehangach o gyfleoedd economaidd ar gael ac yn sicr ar gael yn newis iaith rhywun. ”

Meddai Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith,

"Mae'r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni – yn wir, mae'n chwerthinllyd o isel. Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu gweithio yn Gymraeg. Wedi'r cwbl, mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol i bolisi iaith y Llywodraeth.

"Rydym yn galw ar y Llywodraeth i glustnodi £10 miliwn ychwanegol i'r Coleg Cymraeg allan o'r gyllideb prentisiaethau o dros £111.51 miliwn er mwyn dechrau gweddnewid y sefyllfa. Ni fyddai'r polisi hwn yn costio'r Llywodraeth yr un geiniog ychwanegol - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai fe. Fodd bynnag, byddai o fudd i sefydliadau a chwmnïau sydd am wella ar eu darpariaeth Gymraeg, o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol i'r myfyrwyr, a chyfrannu at leihau allfudiad siaradwyr Cymraeg ifanc o Gymru a'u cymunedau."

This starts with you

They have the money but we have the people. If everyone who visits this website joins our movement, there's nothing we can't accomplish together.